Mae Inc yn enwog am ei gyfieithiadau clir.
Bydd y cyfieithiad yn dilyn ffurf ac arddull y ddogfen wreiddiol a’r cyfan mewn Cymraeg neu Saesneg clir a hawdd ei ddeall.
Mae gan Inc broses gadarn o reoli ansawdd
- Bydd pob cyfieithiad yn cael ei rif unigryw ei hunan ac yn cael ei dracio drwy holl gamau’r broses gyfieithu
- Mae pob un o gyfieithwyr Inc yn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, y corff sy’n achredu cyfieithwyr Cymraeg
- Mae pob cyfieithiad yn cael ei brawf ddarllen gan gyfieithydd arall
- Bydd pob cyfieithiad yn cael ei gymeradwyo gan Wil Roberts, Prif Gyfieithydd Inc.
Mae Inc yn defnyddio CySill, y gwiriwr sillafu Cymraeg, a SpellCheck, y gwiriwr sillafu Saesneg. Mae ganddo lyfrgell eang o eiriaduron a geirfaoedd ac mae’n gwneud defnydd helaeth o’r rhai sydd ar gael ar y we.
Mae gan Inc yswiriant indemnedd proffesiynol o £250,000. Ni wnaed yr un hawliad, erioed.
Bydd Inc yn cyflogi cyfieithwyr llawrydd yn ôl y gofyn. Mae pob un yn aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru a bydd eu gwaith yn cael ei brawf ddarllen gan Wil Roberts cyn ei anfon yn ôl at y cleient.
“Mae’n rhaid i’r cylchgrawn i blant rwy’n ei gyhoeddi gael ei gymeradwyo gan bennaeth addysg Cyngor Gwynedd ac mae’n rhoi pwyslais arbennig ar ansawdd y cyfieithiad Cymraeg. Mae’n canmol y cyfieithiad bob tro ac yn llawn edmygedd o waith Inc.”
Esther Williams, Plant Eryri
“Mae Inc yn anfon gwaith yn ôl yn gyflym – sy’n hanfodol gan ein bod ni’n gweithio mewn swyddfa’r wasg brysur. Mae eu gwaith wastad o ansawdd da ac maen nhw’n ddibynadwy iawn”
Curig Jones, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
Pwy di Pwy yn Inc
Sue Roberts
- Rheolwr Gyfarwyddwr Inc Cyfieithu Cyf
- Profiad helaeth o Gysylltiadau Cyhoeddus, cyn Swyddog Cyhoeddusrwydd a’r Wasg i Recordiau Sain, cwmni recordio Cymraeg mwyaf Cymru sy’n gweithredu’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg
- Cyn swyddog hysbysebu’r Cambrian News, y papur i ganolbarth, gorllewin a gogledd-orllewin Cymru
- Trefnydd digwyddiadau hynod brofiadol, gan gynnwys gwasanaeth arloesol yng Nghadeirlan Westminster i ddathlu 400 mlwyddiant Sant John Roberts o Drawsfynydd, y tro cyntaf erioed i Archesgob Caergaint bregethu yn y Gadeirlan – a gwnaeth Rowan Williams hynny yn Gymraeg
Wil Roberts
- Cyfarwyddwr Inc Cyfieithu Cyf
- Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru
- Cyn Brif Swyddog Ystadau, Cyngor Gwynedd, Uwch Syrfëwr y Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol, Swyddog Ymchwil, Amgueddfa Werin Sain Ffagan
- Cyn olygydd y Ddraig Goch, is-olygydd y Welsh Nation, colofnydd i’r Cymro, yr Herald Cymraeg a’r Faner
- Awdur nifer o gyhoeddiadau Cymraeg ar amaethyddiaeth a chadwraeth.